Gweledigaeth
Nod a gweledigaeth ein hysgol yw darparu amgylchedd hapus a gofalgar lle mae pawb yn cael eu hadnabod yn unigolion ac yn derbyn cefnogaeth i gyrraedd eu potensial llawn mewn awyrgylch agored a chydweithredol.
Trwy ddisgwyliadau uchel a chyfleoedd eang, rydym yn ymdrechu i greu dysgwyr gydol oes hyderus y mae ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddatblygu’n aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Nod ac Amcanion
Nod yr ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel;
Lle y caiff pob plentyn ei barchu a’i gydnabod fel unigolyn.
Lle y caiff pob plentyn gyfle cyfartal, heb wahaniaethu ar sail rhyw, hil na chrefydd.
Lle y caiff pob plentyn feithrin meddyliau ymchwilgar a bywiog drwy awyrgylch sy’n ennyn diddordeb a chwilfrydedd.
Lle y darperir datblygiad cyflawn y plentyn yn academaidd, yn emosiynol, yn ddiwylliannol, yn gorfforol, yn ysbrydol ac yn foesol.
Lle y gall pob plentyn fwynhau awyrgylch Gymraeg a Chymreig a lle y disgwylir i bob plentyn ddod yn gwbl ddwyieithog.
Lle y datblygir hunan-hyder, hunan-ddelwedd ac ymagwedd bositif a chariad at ddysgu a fydd yn aros gyda’r plentyn am byth.
Ein nod yw darparu cwricwlwm sy’n:-
Eang gyda amrywiaeth o weithgareddau a fydd o gymorth i ddatblygiad personol, cymdeithasol a diwilliannol y plant.
Meithrin creadigrwydd, dychymysg a sgiliau meddwl y plant.
Ysgogi annibyniaeth asesu i ddysgu a deallusrwydd emosiynol.
Mynd y tu hwnt i furiau’r dosbarth.
Datblygu cysyniadau sylfaenol, sgiliau ac ymagwedd at waith.
Cynnig dulliau dysgu ac addysgu o safon a fydd yn cynorthwyo’r disgyblion i ddatblygu’r gallu i gwestiynu a thrafod yn rhesymegol, i ddatrys problemau real ac i weithio’n annibynnol.
Annog cyswllt rhwng yr ysgol
a’r cartref
a’r gymuned
ag ysgolion eraill
a’r Awdurdod Addysg ac asiantaethau perthnasol eraill
Cynnwys y plant
Vision
Our school's aim and vision is to provide a happy and caring environment where everyone is recognised as an individual and is supported to fulfil his/her potential in a transparent and co-operative atmosphere.
Through high expectations and a broad range of opportunities, we endeavour to create life-long, confident learners who possess the skills and knowledge necessary to develop into valuable members of society.
Aims and Objectives
The aim of the school is to create a happy and secure atmosphere where
Each child is respected and acknowledged as an individual.
Each child enjoys equal opportunities and is not discriminated against on the basis of sex, race or religion.
Each child can develop enquiring and lively minds in an environment that stimulates interest and curiosity.
Provision is made for the total emotional, cultural, physical, spiritual and moral development of the children.
Each child can enjoy a Welsh and Welsh speaking environment where each child is expected to become fully bilingual.
Self-confidence, self-esteem and a positive attitude to, and love of learning is promoted which will remain with them all through their lives.
We aim to provide a curriculum which:
Includes a wide variety of activities which will assist in the personal, social and cultural development of the children.
Nurtures the children's creativity, imagination and thinking skills.
Promotes independence, assessment for learning and emotional intelligence.
Goes beyond the classroom walls.
Develops basic concepts, skills and attitude towards work.
Offers high quality teaching and learning methods which will help the pupils to develop the ability to question and discuss in a logical manner, to solve real life problems and to work independently.
Encourages links between the school and
the home
the community
other schools
the local authority and other relevant agencies
Engages with the children