Menu
Home Page

Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan

Bydd dda, bydd ddoeth, bydd wych

Welcome Croeso

Welcome/ Croeso

Gair o groeso gan y Pennaeth

 

Mae mynd i’r ysgol am y tro cyntaf yn gam mawr iawn ym mywyd eich plentyn ac i chwithau hefyd. Rydym eisiau gweld y pontio hwn o’r cartref i’r ysgol neu o ysgol i ysgol, yn ddigwyddiad mor rhwydd â phosib. Gobeithiwn y bydd y prosbectws hwn o gymorth; fodd bynnag, nid oes yr un prosbectws a all ateb eich holl gwestiynau, felly dewch i ymweld â’r ysgol gyda’ch plentyn a gweld drosoch eich hun pa mor hapus mae’r plant a pha mor dda maent yn gweithio gyda’u hathrawon.

Rydym yn falch iawn o'm disgyblon yn Ysgol Gymraeg Tan-y-lan. Pob blwyddyn daw llawer o ymwelwyr i’r ysgol ac yn aml maent yn dweud wrthym iddynt sylwi ar ymddygiad da ein disgyblion, a pha mor gwrtais ydynt. Mae’r ysgol yn falch o’i henw da, am iddi fwrw gofal dros bob plentyn yn unigol, o ran lles y disgyblion a’r ddarpariaeth addysgiadol.

Rwy’n gobeithio bydd yr awgrymiadau canlynol yn ddefnyddiol. Maent ymhell o fod yn gynhwysfawr, ac rwy’n siŵr y bydd gennych chi syniadau amhrisiadwy i’w ychwanegu. Gyda chydweithrediad, rwy’n siŵr y gall eich plentyn gael y cychwyn gorau i’w fywyd yn Ysgol Gymraeg Tan-y–lan.

  • Paratowch eich plentyn ar gyfer cychwyn ysgol.
  • Rhowch bob anogaeth i’ch plentyn ym mhob peth y mae’n bwriadu ei wneud. Mae pob gwaith ymchwil wedi profi, y tu hwnt i amheuaeth, bod cartref lle ceir cariad, diddordeb, sefydlogrwydd ac anogaeth barhaus yn cyfrannu mwy at gynnydd addysgiadol plentyn nag unrhyw ffactor arall.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn gallu gwisgo’i hun, mynd i’r tŷ bach yn annibynnol ac yn gallu cyfleu ei anghenion.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn dod i’r ysgol gyda meistrolaeth dda o iaith. Siaradwch â’ch plentyn yn gyson, darllenwch iddo / iddi bob dydd a dysgwch hwiangerddi a chaneuon iddo / iddi.
  • Gwnewch bob ymdrech i fynychu cyfarfodydd ysgol a drefnir ar gyfer rhieni. Mae athrawon yn gallu teimlo’n rhwystredig os yw rhieni yn methu yn eu dyletswydd tuag at eu plant.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn dod i’r ysgol yn lân ac wedi gwisgo’n briodol.
  • Sicrhewch fod gan eich plentyn ffydd ac ymddiriedaeth yn ei athro / athrawes.
  • Codwch o’r gwely’n ddigon cynnar i roi cychwyn tawel a threfnus i ddiwrnod eich plentyn. Cofiwch fod brecwast da yn hanfodol er mwyn iddynt ddyfalbarhau a chanolbwyntio drwy gydol y bore (Mae clwb brecwast da iawn yn yr ysgol yn agor am 8.10 o’r gloch).
  • / iddi ymddwyn yn dda yn sydyn os nad ydych wedi llwyddo i wneud hynny yn y cartref.
  • Mae’n rhaid i’r ysgol fod yn deg â phob un o’i disgyblion, felly, peidiwch â gofyn am driniaeth arbennig megis ‘gadewch iddo aros i mewn amser cinio’ neu ‘dydy hi ddim eisiau mynd i nofio’. Cofiwch fod peth cydymffurfiaeth yn rhesymol mewn cymdeithas.
  • Dewch i drafod unrhyw bryderon gyda’r athrawon dosbarth hyd yn oed os ydych o’r farn eu bod yn rhai pitw.
  • Mae’n syniad da i osod enw eich plentyn ar wisg ysgol. Mae’n anodd dod o hyd i grys chwys heb enw - gall fod yn un o gannoedd!
  • Yn olaf, peidiwch ag ymuno â ‘senedd mynedfa’r ysgol’! Os ydych yn anhapus ag unrhyw agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol byddaf yn fwy na pharod i drafod y mater gyda chi.
  •  

    Rwyf o’r farn gallwn ni gyflawni’r gorau ar gyfer eich plentyn drwy gydweithrediad agos rhwng y cartref a’r ysgol. Heb gynnwys rhieni yn y gwaith hwn, mae ein tasg ni’n llawer anoddach ac yn llai pleserus. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn cymryd diddordeb helaeth yn yr hyn mae eich plentyn yn gwneud yn yr ysgol ac y byddwch yn ei annog i wneud pob ymdrech i ddysgu a deall pwysigrwydd hyn yn ddiweddarach mewn bywyd.

    Rydym yn edrych ymlaen at eich tywys o gwmpas Ysgol Tan-y-lan, fel y gallwch ganfod yr ethos tawel, cyfeillgar ac ysgogol drosoch eich hun.

     

    Mr Berian Wyn Jones

    Pennaeth

“Bydd dda, bydd ddoeth, bydd wych….bydd fi”.

 

Welcome

 

Entering the school for the first time is a very big step in your child’s life as well as your own. We want this transition from home to school or from school to school, to be as smooth as possible. I hope that this prospectus will help; however, no prospectus will answer all your questions, so please visit the school along with your child to see for yourself how happy the children are and how well they work with their teachers.

We are very proud of the pupils at Ysgol Tan-y-lan. Every year we have many visitors to the school who frequently make comments about how well our pupils behave and how courteous they are. The school is proud of its reputation, for its concern for the individual child, both in terms of welfare and educational provision.

The learning opportunities offered at Ysgol Tan-y-lan are excellent and the many activities offered to pupils ensure they become effective lifelong learners.

The school receives many requests in relation to preparing children for this transfer. I do hope some of the following suggestions prove useful. They are far from conclusive and I’m sure you too will have valuable ideas of your own to add. In partnership, I have no doubt we will be able to give your child the very best start to his / her life at Tan-y-lan.

  • Prepare your child for school.
  • Encourage your child in all he / she sets out to do. All research has proven, beyond a doubt, that a home where there is love, interest, stability and continuing encouragement does more for the child’s educational progress than any other factor.
  • Make sure he / she can dress him / herself, use the toilet independently and make his / her needs known.
  • Make sure your child comes to school with a good command of language, talk to your child constantly, read to him / her daily and teach him / her nursery rhymes and songs.
  • Make every effort to attend school meetings arranged for parents. Teachers can become frustrated if their parents fail to do their duty by their children.
  • Make sure your child comes to school clean and suitably dresses.
  • Ensure your child has faith and trust in his / her teacher
  • Get up early enough to give your child a calm and ordered start of the day. Remember that a good breakfast is essential to his / her staying power and concentration throughout the morning. (There is very good breakfast club at the school each morning. Doors open 8:10am)
  • You know your child, so do not expect the school to suddenly make him / her well behaved if you have not succeeded in doing so at home.
  • A school has to be fair to all its pupils, therefore, please do not ask for special treatment such as “let him stay in playtime” or “she doesn’t want to go swimming”. Remember, that some conformity is reasonable in society.
  • Always discuss any concerns with the class teacher – even if you think they are small.
  • It is a good idea to label your school uniform. It is difficult to find a school sweater without a name – it may be one of hundreds!
  • Finally, do not join the ‘school gate parliament’! If you are unhappy about any aspect of the school, I would be more than happy to discuss the matter with you.

 

I believe we can only achieve the best for your child by close cooperation between home and school. Without the involvement of parents, our task is much more difficult and less enjoyable. I hope you will take a close interest in what your child is doing in school and will encourage learning and its importance in later life.

We look forward to showing you around Ysgol Tan-y-lan, so that the calm, friendly and motivating ethos can be experienced first-hand.

 

Thank you very much

 

Mr Berian Wyn Jones

Headteacher

 

“Bydd dda, bydd ddoeth, bydd wych, bydd fi”

 

Welcome to Tan-y-lan

 

Please explore our website for information and to experience the ethos of this vibrant and busy school

Top