Menu
Home Page

Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan

Bydd dda, bydd ddoeth, bydd wych

Welcome Croeso

School Council/ Cyngor Ysgol

Cyngor Ysgol 2023

Yn Ysgol Tan-y-lan, mae gan bob dosbarth o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 6 gynrychiolydd ar ein Cyngor Ysgol. Rydym yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod gwahanol ffyrdd y gallwn wella ein hysgol. Rydym hefyd yn cynnig syniadau am godi arian ar gyfer elusennau ac ar gyfer yr ysgol.
Bydd aelodau'r Cyngor Ysgol yn cyfarfod sawl tro yn ystod y tymor er mwyn trafod barn a syniadau ein disgyblion yn Ysgol Tan-y- lan. Yna caiff y trafodaethau hyn eu bwydo'n ôl i weddill yr ysgol trwy'r dudalen gwefan hon, trafodaethau ystafell ddosbarth, gwasanaethau a hysbysfwrdd y Cyngor Ysgol sydd wedi'i lleoli tu fewn i brif fynedfa’r ysgol, gwelir y llun isod.
Miss Davies a Mr Jones sy’n cefnogi ni ar y Cyngor ac mae hi’n rhannu gyda ni materion a godwyd gyda'r athrawon yn ystod ein cyfarfodydd.
Os ydych chi'n blentyn sy'n mynd i Ysgol Tan-y-lan, gallwch gyflwyno'ch awgrymiadau ar sut i wella ein hysgol fach ni mewn sawl ffordd megis ysgrifennu syniad ar ddarn o bapur a'i phostio i mewn i flwch 'Sylwadau Y Cyngor Ysgol.'

Ond yn bwysicach byth...

os oes angen unrhyw beth neu os ydych am awgrymu newidiadau a mynegi eich barn, dywedwch wrth eich cynrychiolydd dosbarth.

MAE’R CYNGOR YMA I’CH HELPU CHI GYD!

 

 

All classes from year 2 to 6 have a pupil representative on the school council. We hold regular meetings to discuss ways to improve our school. We also share fundraising ideas raising money for charities and the school.

members of the school council meet regularly during the term to express opinions and share ideas.

The main points of discussions are fed back to the school via the school website , whole class discussions, assemblies and displayed on the School Council Noticeboard which is located in the reception area of the school.

Miss Davies and Mr Jones works with us supporting us and sharing our ideas with the staff.

If you are a pupil at Tan-y-lan you can share your ideas on how to improve our school in various ways for example writing ideas on paper an posting them in the 'School Council ideas box.'

 

More importantly ...

if you need anything or have any suggestions and views on ways to improve our school please share these with your class representative.

The School Council are here to help everyone!

 

Top